Cynghorwyr yn cymeradwyo symud ymlaen gydag Ysgol Gynradd Gymraeg newydd

Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent wedi cymeradwyo ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cynnwys darpariaeth gofal plant yn Nhredegar/Cwm Sirhywi.

Cynhaliwyd ymgynghoria d, gyda’r holl brif randdeiliaid, yn gynharach eleni ar gynnig i ddatblygu ysgol ‘egin’ cyfrwng Cymraeg gyda 210 lle gyda gofal plant yn yr un safle, yn Chartist Way.

Dangosodd yr ymgynghoriad fod cefnogaeth gref i ysgol Gymraeg newydd gan y rhai a gymerodd rhan.

Caiff yr ysgol newydd a’r ddarpariaeth gofal plant ar yr un safle eu datblygu yn unol â safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn amodol ar brosesau cynllunio (ymgynghoriad a chymeradwyaeth). Mae’r Cyngor wedi sicrhau £6.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer yr adeilad drwy gynlluniau Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ysgol yn galluogi’r Cyngor i ateb y galw cynyddol am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y Cyngor:

“Mae dymuniad cryf i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a’r cyfleoedd am addysg Gymraeg, ac yn wir rydym yn gweld galw cynyddol am leoedd ysgol a darpariaeth blynyddoedd cynnar yn lleol.

“Bydd yr ysgol newydd hon gyda gofal plant ar yr un safle yn rhoi mwy o opsiynau i rieni pan fyddant yn dewis llwybr addysg ar gyfer eu plant, felly rwy’n falch fod y Pwyllgor Gweithredol wedi cydnabod hyn heddiw fel cam pwysig wrth gynyddu darpariaeth yma ym Mlaenau Gwent a rhoi mwy o ddewis i rieni.”

Byddai’r ysgol newydd yn dechrau fel ‘darpariaeth egin’ gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i gynnig darpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029. Fel rhan o’r ymgynghoriad cysylltodd y Cyngor gyda chyrff llywodraethu, staff ysgol, plant a phobl ifanc, rhieni a phreswylwyr i gasglu sylwadau.