Cynghorwyr yn croesawu newidiadau mewn addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Cynghorwyr ym Mlaenau Gwent wedi cefnogi dwy strategaeth allweddol a pholisïau cysylltiedig sydd â’r nod o wella profiadau a deilliannau addysgol plant a phobl ifanc gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Clywodd y Pwyllgor Craffu Pobl  fod y ffordd yr caiff Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cefnogi ei adolygu yn unol â rhaglen Diwygio ADY Llywodraeth Cymru. Bydd pob plentyn a pherson ifanc gydag ADY yn cael Cynlluniau Datblygu Unigol, fydd yn nodi’r dull o gefnogi eu hanghenion a’r ddarpariaeth addysg Oedolion sydd ei hangen.

Bu gweithgor Diwygio ADY, yn cynnwys swyddogion yr Awdurdod Addysg Lleol a Phenaethiaid Ysgolion, yn cwrdd i weithio ar y cynlluniau ac i lywio’r dulliau gweithredu newydd – yn arbennig y strategaeth lefel uchel ar ADY a’r strategaeth Cynhwysiant.

Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg:

“Mae cefnogi plant a phobl ifanc gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn sylfaenol i’n gweledigaeth ar gyfer Gwell Ysgolion, Gwell Dinasyddion a Gwell Cymunedau. Mae’n hanfodol fod pawb yn cydweithio i sicrhau y caiff y dysgwyr hyn eu cefnogoi’n dda gyda’u hanghenion addysg a llesiant a’u bod yn cyflawni eu potensial llawn a’r deilliannau a ddymunir.

“Rwy’n falch fod y Pwyllgor Craffu wedi cefnogi’r newidiadau hyn i ddarpariaeth ADY sy’n sicr o gael eu gweld fel camau cadarnhaol iawn ymlaen ym mhrofiad addysg a dysgu rhai o’n dysgwyr mwyaf bregus ym Mlaenau Gwent.”

Yn ogystal  â cyllid Llywodraeth Cymru a gaiff ei ddyrannu’n uniongyrchol i ysgolion i gefnogi gyda gweithredu diwygiadau ADY, dyrannwyd cyllid ychwanegol o £215,000 i’r Cyngor hefyd. Mae hyn er mwyn darparu addysg ansawdd uchel a gwella deiliannau disgyblion ar gyfer pob dysgwr gydag Angen Dysgu Ychwanegol. Bydd y cyllid yn canolbwyntio ar wella darpariaeth dysgu ychwanegol, cynyddu darpariaeth ar gyfer anghenion cymhleth a chymorth gyda iechyd meddwl a llesiant.

Bydd yr adroddiad yn awr yn mynd i’r Pwyllgor Gweithrediaeth i’w gygmeradwyo’n derfynol.