Cynghorwyr yn cef nogi gweithio gyda datblygwyr tai i ddarparu buddsoddiad

Mae’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu heddiw wedi cefnogi adroddiad yn amlinellu sut fydd y Cyngor yn gweithio gyda datblygwyr tai i sicrhau, lle mae angen, y gwneir cyfraniad ariannol i wella darpariaeth ysgol yn yr ardal leol.

Mae Cytundeb Adran 106 yn gytundeb rhwng yr awdurdod lleol a datblygydd y bydd y datblygydd yn gwneud cyfraniad ariannol i sicrhau fod ysgolion yn yr ardal ag adnoddau i dderbyn y cynnydd yn nifer y disgyblion. Unwaith y bydd wedi eu negodi, caiff y rhwymedigaeth yma ei gynnwys yn y caniatâd cynllunio a bydd yn weithredol ar gyfer datblygiadau o dros 10 cartref newydd, yn cynnwys unrhyw dai fforddiadwy.

Mae’r cyllid er mwyn sicrhau y gellid ymestyn neu ailwampio ysgolion sy’n debygol o dderbyn disgyblion ychwanegol fel canlyniad i unrhyw ddatblygiad i ddarparu ar gyfer y lleoedd hyn a chreu amgylcheddau dysgu addas ar gyfer plant a phobl ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar ran y Cyngor:

“Rydym i gyd eisiau gweld cartrefi newydd yn cael eu datblygu, ac mae’n wych gweld arian yn cael ei fuddsoddi yma ym Mlaenau Gwent. Mae hefyd angen i ni wneud yn siŵr fod ein hysgolion yn addas i’r diben a, lle bo hynny’n briodol, byddwn yn gweithio gyda datblygwyr i helpu cyllido unrhyw waith sydd ei angen a hybu’r gwaith gwych rydym eisoes yn ei wneud i foderneiddio’r stad ysgolion a chreu amgylcheddau dysgu sy’n addas ar gyfer ein plant a phobl ifanc.”

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer dibenion yn cynnwys:

• Darparu ystafelloedd dosbarth/amgylcheddau dysgu newydd
• Rhoi cyfleusterau parhaol yn lle cyfleusterau dros dro
• Gwelliannau ac aiiwampio i ddarparu capasiti ychwanegol
• Darparu cyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen oherwydd galw cynyddol
• Creu adeilad ysgol newydd os oes angen hynny, yn seiliedig ar faint y datblygiad.