Gwarchod hawliau plant yn y gweithle

Cyn Mis Ymwybyddiaeth Cyflogaeth Plant, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn atgoffa busnesau fod angen trwydded i gydymffurfio gyda chyfreithiau cyflogaeth er mwyn cyflogi plant rhwng 13 a 16 oed. Mae’r trwyddedau hyn ar gael yn rhad ac am ddim gan y cyngor lleol y mae’r man cyflogaeth ynddo.


Ni chaniateir i unrhyw blentyn dan 13 oed weithio yng Nghymru os nad ydynt yn cymryd rhan mewn prosiectau Adloniant a Pherfformiad.


Mae Ymgyrch Ymwybyddiaeth Genedlaethol a gynhelir ar draws y wlad ym mis Ebrill lle bydd cynghorau yn atgoffa cyflogwyr fod plant rhwng 13 a 16 oed angen Trwydded Gwaith i’w galluogi i wneud gwaith rhan-amser.


Lles plant yw’r ystyriaeth bennaf ac os ydynt yn cymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith rhan-amser, mae angen i ni sicrhau y caiff eu hanghenion eu cyflawni gan gyflogwyr a bod plant sydd yn gweithio yn gwneud hynny’n ddiogel.


Yn ystod y mis hwn, bydd swyddogion o’r Awdurdod Lleol yn ymweld â mannau busnes ar draws y fwrdeistref i sicrhau fod pobl ifanc mewn swyddi rhan-amser yn ddiogel ac yn gweithio’n gyfreithlon.


Dan is-ddeddfau yn rheoleiddio cyflogaeth plant a masnachu stryd gan bersonau dan 18 oed, a gyflwynwyd dros 50 mlynedd yn ôl, gall plant rhwng 13 a 16 oed gymryd rhan mewn gwaith ysgafn mewn nifer o wahanol feysydd yn cynnwys: gwaith siop, gwaith swyddfa a gweithio mewn caffes, bwytai, golchi ceir a stablau marchogaeth.


Ni chaniateir cyflogi unrhyw blentyn cyn 7.00am neu ar ôl 7.00pm ar unrhyw ddiwrnod. Ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 4 awr heb seibiant o leiaf 1 awr ac ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7.00am a 7.00pm.


Yn ystod y tymor, ni chaniateir cyflogi unrhyw blentyn am fwy na 12 awr yr wythnos ac mae hefyd ganllawiau eraill ar gyfer y nifer o benwythnosau ac oriau yn ystod cyfnodau gwyliau y gall plant weithio.