Cyllideb Blaenau Gwent 2022/2023

Derbyniodd y Cyngor ei setliad cyllideb darpariaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Bydd Blaenau Gwent yn derbyn cynnydd o 8.4% yn ei gyllid, sydd yn £10.4 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn anelu i fynd i’r afael â rhai o’r costau uwch sy’n wynebu pob cyngor yn cynnwys cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y lefi gofal cymdeithasol, cyllido’r Cyflog Byw Gwirioneddol, cynnydd mewn costau ynni a pharhau i ddelio gyda’r pandemig Covid.

Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau rheng-flaen. Mae’r setliad ffafriol, sy’n uwch nag a ddisgwylid, yn golygu y gallwn barhau i ddarparu’r gwasanaethau sydd bwysicaf i breswylwyr lleol heb unrhyw doriadau cyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae’r cynnydd mewn cyllid yn newyddion i’w groesawu fodd bynnag nid yw’n gwrthwneud y gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb dros y 10 mlynedd ddiwethaf sy’n golygu fod yn rhaid i ni barhau i fod yn ariannol ddarbodus a gweithio’n galed i ddiwallu gofynion gwasanaeth tra’n sicrhau cyllideb gytbwys ym mlynyddoedd y dyfodol.

Cyllideb Gytbwys

Mae ein dull o gynllunio ariannol mewn blynyddoedd diweddar wedi ein galluogi i gael cyllideb gytbwys. Bu bod â dull gweithredu mwy masnachol ei naws a meddwl am ffyrdd gwahanol i ddiwallu anghenion ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn allweddol i hyn.

Drwy amrywiaeth o adolygiadau busnes strategol sy’n cynnwys adolygu’r trefniant masnachol sydd gennym gyda’n cyflenwyr, dynodi sut y gallwn wella sut mae ein preswylwyr yn cyrchu gwasanaethau a sut y rheolwn yr  eiddo a’r tir yr ydym yn berchen arnynt rydym wedi dynodi gostyngiadau cyllideb o tua £6.7m dros y 5 mlynedd nesaf. Dynodwyd £2.58m o hyn ar gyfer 2022-23.

Heriau’r Dyfodol

Mae ein dull o gynllunio ariannol yn cynnwys rhagweld ein sefyllfa cyllid dros gyfnod o 5-mlynedd ac ystyried sut y byddwn yn parhau i gyllido gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwnnw. Fel rhan o’n cynllunio busnes rydym yn rhagweld diffygion pellach yn y lefel cyllid sydd ei angen i gyflawni ein blaenoriaethau. Er mwyn cynllunio ar gyfer y sefyllfa honno, mae angen i ni ystyried yr holl incwm sydd ei angen yn cynnwys lefelau Treth Gyngor.

Mae’r Dreth Gyngor yn elfen bwysig o gyllid y Cyngor gan gyfrannu tua 21% o’r holl incwm a dyma’r brif ffordd y gallwn lenwi unrhyw fwlch yn y gyllideb. Mae ein cynllun ar gyfer y tymor canol yn cynnwys cynnig i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 4% i’n helpu i adeiladu cydnerthedd am nawr a diwallu gofynion gwasanaeth ar gyfer blynyddoedd y dyfodol.


Mae’n gyffredin defnyddio Band D fel y safon ar gyfer cymharu lefelau Treth Gyngor ledled Cymru ac mae hyn yn rhoi darlun camarweiniol ar gyfer Blaenau Gwent. Mae 85% o gartrefi Blaenau Gwent ym Mand A neu Band B ac mae cynnydd o 4% yn gyfwerth â:

Band A cynnydd 91c yr wythnos
Band B cynnydd £1.06 yr wythnos

Sut mae’r Cyngor yn gwario ei gyllideb

Caiff y rhan fwyaf o’r arian a gawn gan Lywodraeth Cymru ei wario ar Wasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Mae’r Dreth Gyngor ac incwm arall yn helpu i gyllido’r gwasanaethau eraill hynny sydd hefyd yn bwysig i breswylwyr.

Mae gennym ddiddordeb yn eich sylwadau ar ein blaenoriaethau gwariant a lefel y Dreth Gyngor a gynigir ar gyfer 2022-23. Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn llenwi’r arolwg byr islaw erbyn 14 Chwefror 2022.