Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru.

Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff.

Mae’r rheoliadau’n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig.

Bydd canllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddan nhw’n cwrdd ag eraill.

Bydd £120m ar gael i glybiau nos a busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth y mae’r newid hwn i lefel rhybudd 2 yn effeithio arnyn nhw – dwbl y pecyn £60m newydd a gyhoeddwyd wythnos diwethaf.

Bydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi manylion pellach yfory (23 Rhagfyr).

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae’r amrywiolyn omicron newydd yn heintus iawn ac mae’n lledaenu’n gyflym. Mae ton o heintiau o’n blaenau.

Gallai’r math newydd hwn o’r coronafeirws heintio niferoedd mawr o bobl yng Nghymru, gan amharu ar fywydau pobl a busnesau. Gallai achosi cynnydd yn nifer y bobl sydd angen gofal ysbyty yn yr wythnosau nesaf.

Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu iechyd a bywoliaethau pobl yng Nghymru. Mae hyn yn golygu gweithredu’n gynnar i geisio rheoli ei ledaeniad.

Rydyn ni’n newid y rheolau ar gyfer busnesau a rhai mannau cyhoeddus, lle mae llawer o wahanol bobl yn cymysgu bob dydd. Rydyn ni hefyd yn rhoi cyngor cryf a chlir i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddan nhw’n cwrdd ag eraill."

O Ddydd San Steffan ymlaen, bydd y mesurau lefel rhybudd 2 yn cynnwys:

  • Gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ac ym mhob gweithle, pan fo hynny’n rhesymol.
  • Bydd y rheol chwech o bobl mewn grym pan fydd pobl yn ymgynnull mewn lleoliadau a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Bydd angen i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd.
  • Ni fydd digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu o dan do nac yn yr awyr agored. Y nifer mwyaf o bobl a fydd yn cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do fydd 30 a 50 yn yr awyr agored.
  • Bydd yna eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan. Bydd yna eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant.

Wythnos diwethaf, cyhoeddwyd mesurau newydd ar gyfer gweithleoedd a siopau – bydd y rhain nawr yn dod i rym Ddydd San Steffan. Yn ogystal, bydd clybiau nos yn cau Ddydd San Steffan.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheolau newydd ynglŷn â chymysgu yng nghartrefi preifat pobl, gan gynnwys gerddi, mewn llety gwyliau nac wrth gwrdd yn yr awyr agored. Yn hytrach, bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd.

I’ch helpu i ddiogelu eich hun yn eich cartref, rydym yn cynghori’n gryf fod pawb yn gwneud y pum peth canlynol:

  • Cyfyngu nifer y bobl sy’n dod i’ch cartref.
  • Os bydd pobl yn ymweld, sicrhau eu bod yn gwneud prawf llif unffordd yn y bore cyn yr ymweliad.
  • Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well nag o dan do. Os byddwch yn cwrdd o dan do, gadewch ddigon o awyr iach i mewn i’r ystafell.
  • Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau.
  • Cofio cadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo.

Bydd trosedd ar wahân am gynulliadau mawr – dros 30 o bobl o dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored – mewn cartrefi a gerddi preifat.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

"Y peth pwysicaf y gallwn ni gyd ei wneud i ddiogelu ein hunain rhag omicron yw cael ein brechu’n llawn – sy’n golygu cael y pigiad atgyfnerthu hefyd. Os ydych chi’n gymwys am bigiad atgyfnerthu, rwy’n erfyn arnoch i roi blaenoriaeth i’w gael yn yr wythnosau nesaf.

Wrth inni dreulio gaeaf arall yn y pandemig, mae llawer iawn o bobl wedi’u brechu ac mae degau o filoedd o bigiadau atgyfnerthu ychwanegol yn cael eu rhoi bob dydd.

Yn ogystal, mae’r profion llif unffordd cyflym ar gael i’n helpu ni gyd i ganfod arwyddion haint heb symptomau.

Bydd y ddau beth hyn, ynghyd â phopeth rydyn ni wedi’i ddysgu yn y ddwy flynedd diwethaf, yn helpu i’n diogelu gartref heb yr angen am reolau a rheoliadau newydd ynglŷn â chymysgu gartref."