Camau nesaf ar gyllid ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd cynigion gan sefydliadau sy’n dymuno cyflwyno gweithgaredd fel rhan o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y Darllen Unedig.
 
Gofynnir i chi ddarllen Prosbectws Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig a Nodyn Technegol Cronfa Gymunedol y Deyrnas Unedig ar gyfer Ymgeiswyr a Darparwyr Prosiectau cyn dechrau gwaith ar gynnig. https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus

Mae’r Prosbectws yn rhoi gwybodaeth fanwl ar amcanion y Gronfa, y mathau o brosiectau y mae’n bwriadu eu cefnogi a sut mae’n gweithredu, yn cynnwys y broses a’r meini prawf ar gyfer dethol a ddefnyddir i asesu cynigion.

Bydd cynigion llwyddiannus ar gyfer Cronfa Adnewyddu Gymunedol y Deyrnas Unedig ar gyfer 2021/22 yn unig ac mae’n rhaid i weithgaredd ddod i ben ym mis Mawrth 2022.

Mae Cronfa Adnewyddu Gymunedol y Deyrnas Unedig yn broses gystadleuol ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau ar drafodaethau gyda chynigwyr.

Cefndir

Ar 3 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fanylion pellach sut y bydd cyllid yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ar gael drwy’r Gronfa Rhannu Ffyniant.
 
Wedi ei hailfrandio fel y Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) ar gyfer blwyddyn beilot 2021-22, bydd y gronfa yn darparu £220m ar draws y Deyrnas Unedig i dreialu dulliau gweithredu y Gronfa Rhannu Ffyniant dros dymor hirach.
 
Mae prosbectws y CRF yn nodi y bydd 90 y cant o’r gyllid yn refeniw a bydd yn cefnogi cynigion hyd at £3m. Bydd y gronfa yn canolbwyntio ar sgiliau, busnesau lleol, cymunedau a lle, a chyflogaeth, a chaiff ei rhedeg ar sail gystadleuol.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweld cefnogi amrywiaeth o brosiectau yn ôl thema a maint, ond caiff ymgeiswyr eu hannog i sicrhau’r effaith mwyaf a’r gallu i gyflenwi drwy brosiectau mwy (£500,000+) lle’n bosibl.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dynodi 100 lle blaenoriaeth ar gyfer y CRF a chaiff y gronfa ei harwain gan awdurdodau lleol y disgwylir iddynt gyflwyno rhestri byr o brosiectau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig cyn canol-dydd ar 18 Mehefin. Caiff cynigion wedyn eu hasesu gan Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gwneir cyhoeddiadau ar gynigion llwyddiannus ddiwedd mis Gorffennaf. Mae’n rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Mawrth 2022.

Am ba fath o gynigion ydyn ni’n edrych?

Mae’n rhaid i brosiectau gyflenwi gweithgaredd sy’n gydnaws â Phrosbectws Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig ac alinio gydag o leiaf un o’r blaenoriaethau buddsoddi hyn
• Buddsoddiad mewn sgiliau
• Buddsoddiad ar gyfer busnes lleol
• Buddsoddiad mewn cymunedau a lle
• Cefnogi pobl i gyflogaeth
Gall unrhyw sefydliad gyda chyfansoddiad cyfreithiol wneud cais am gyllid – awdurdodau lleol, cyrff sector cyhoeddus, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, cwmnïau sector preifat ac elusennau cofrestredig.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd cynigion am grant CRF y Deyrnas Unedig gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno o 5pm ar 20 Mai 2021.

Yn ogystal â chanllawiau’r gronfa a nodir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd ar gael drwy’r ddolen, dylai ymgeiswyr ystyried sut mae eu cynigion yn alinio gyda blaenoriaethau lleol Blaenau Gwent a amlinellwyd mewn dogfennau strategol allweddol sy’n cynnwys:

Blaenoriaethau Lleol

Cynllun Llesiant Blaenau Gwent – Darparu’r Blaenau Gwent a Garem
Mae Blaenau Gwent eisiau:

• Y dechrau gorau mewn bywyd i bawb
• Cymunedau diogel a chyfeillgar
• Gofalu am a gwarchod ei amgylchedd naturiol
• Llunio llwybrau newydd i ffyniant
• Annog a gallu pobl i wneud dewisiadau iach am ffordd o fyw

Mae blaenoriaethau ein cynllun corfforaethol yn anelu i adeiladu ar dreftadaeth falch i adeiladu cymunedau cryf a dyfodol mwy disglair.

Blaenoriaethau Datblygu Economaidd ac Adfywio:

• Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cefnogaeth effeithlon ar gyfer cyflogaeth a mynediad i ddatblygu sgiliau
• Cynyddu cyfradd sefydlu busnes, cadw a thwf busnesau lleol a denu mewnfuddsoddiad newydd
• Datblygu seilwaith digidol a gwella cysylltedd drwy hyrwyddo cyfranogiad digidol
• Datblygu portffolio o gyfleoedd ynni posibl i gyflenwi buddion economaidd, busnes a chymunedol

Mae ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau – Blaenau Gwent yn Ffynnu yn cynnwys y themâu dilynol:

Busnes a Menter
Hwyluso twf ac arloesedd drwy ddeall ac ymateb i anghenion economaidd lleol.

o Adeiladu ac ymwreiddio perthnasoedd busnes effeithlon ar gyfer sectorau sy’n arwyddocaol yn lleol er mwyn deall anghenion sgiliau’r dyfodol ac adeiladu datrysiadau ymatebol
o Sicrhau bod dysgu a datblygiad personol parhaus wedi ei alinio i gefnogi cynyddu sgiliau a pharatoi ar gyfer gofynion sgiliau diwydiant yn y dyfodol

Dysgu a Sgiliau
Sicrhau fod y ddarpariaeth sgiliau yn ymatebol ac yn hygyrch i breswylwyr.

o Yr angen i gynyddu lefelau sgiliau ym Mlaenau Gwent i sicrhau fod preswylwyr yn y sefyllfa orau i sicrhau cyflogaeth yn cynnwys swyddi medrus a chyflog uwch.
o Alinio darpariaeth sgiliau gyda sectorau twf hysbys o fewn y rhanbarth yn cynnwys peirianneg a deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu
o Darparu cyflenwi arloesol ac ymatebol i hwyluso anghenion penodol diwydiant
o Annog cyflenwi hyblyg i hwyluso llwybrau dysgu amgen sy’n darparu cyfleoedd i bawb.

Symudedd Cymdeithasol, Cynhwysiant a Chyflogadwyedd

Creu cymuned fedrus a gyda chymhelliant, drwy gymorth cyflogaeth addas, ar bob cam o daith unigolyn.

o Unigolion yn cael y sgiliau i lwyddo a chefnogi gofynion llafur leol
o Sicrhau y caiff cymorth cyflogaeth ei ddarparu’n llyfn gan ddarparu ar gyfer anghenion pob preswylydd ar bob cam o’u taith
o Ehangu darpariaeth cymorth mewn gwaith sydd ar gael i gynyddu sgiliau unigolion
o Hyrwyddo hunan-gyflogaeth, prentisiaethau cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli fel llwybrau eraill i gyflogaeth

Addysg ac Ysgolion Cynyddu ymwybyddiaeth o gyfle ac uchelgais pobl ifanc a chefnogi eu llwybrau i waith.


Prosbectws Ynni yn amlinellu ymrwymiad i gefnogi Blaenau Gwent i ddod yn fwrdeistref carbon isel leol drwy:

• Gwella effeithiolrwydd ynni a carbon
• Gostwng tlodi tanwydd
• Gwella cydnerthedd y rhwydwaith dosbarthu lleol
• Cynyddu i’r eithaf y potensial i gynhyrchu refeniw

Cyrchfan o ddewis

Caiff ymwelwyr eu denu i gyrchfan lle mae busnesau egnïol yn cydweithio i roi croeso cynnes i bawb sy’n ymchwilio’r dreftadaeth gyfoethog, y tirlun dramatig, y trefi diddorol a’r ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd gan Flaenau Gwent i’w cynnig

Sut y caiff cynigion eu hasesu

Fel yr awdurdod arweiniol bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn asesu pob cynnig a gyflwynir.
 
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn rheoli asesiad pob cynnig drwy banel annibynnol yn cynnwys croestoriad o gynrychiolwyr o’r trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat i sicrhau proses dryloyw ac agored.
 
Caiff cynigion eu hasesu ar:
• y meini prawf porth a nodir ym Mhrosbectws Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig – bydd cynigion sy’n methu diwallu’r meini prawf hyn yn anghymwys am gymorth a chânt eu gwrthod
• i ba raddau y maent yn diwallu amcanion Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig
• i ba raddau y byddai cynigion yn cefnogi sicrhau twf lleol a blaenoriaethau cymorth cyflogaeth
Yn dilyn asesiad bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cyflwyno’r cynigion cymwys hynny sydd gryfaf wrth gyflawni blaenoriaethau adfywio a thwf Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig a Blaenau Gwent, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael eu hystyried, hyd at uchafswm dangosol o £3m fesul lle (mae’r ffigur hwn yn cynnwys ffioedd rheoli o hyd at 3% a osodir o’r neilltu i gyllido goblygiadau Awdurdod Arweiniol).
 
Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn asesu pob cynnig a gyflwynir gan awdurdodau arweiniol ar y meini prawf a nodir ym Mhrosbectws Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig.
 
Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi canlyniad y broses asesu o ddiwedd mis Gorffennaf 2021 ymlaen.
 
Dylai ymgeiswyr nodi mai dim ond o’r adeg cymeradwyo ymlaen y gellir mynd i gostau Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig. Ni thelir costau yn ôl-weithredol.
 
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymrwymo i gytundeb cyllido gyda chynigwyr llwyddiannus.

Cyflwyno cynnig
Mae’n rhaid cyflwyno cynigion yn defnyddio Ffurflen Gais Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig, sydd ar gael yma. Ni chaiff cynigion a gyflwynir mewn unrhyw ffurf arall eu derbyn.

Rhaid cyflwyno cynigion i gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn: business@blaenau-gwent.gov.uk

Rhaid cyflwyno cynigion erbyn 5pm ar 20 Mai 2021

Gofynnir i chi fynd i’n tudalen gwefan i gael gwybodaeth ar y data y byddwn yn ei chasglu fel rhan o’r broses yma.