Blaenau Gwent yn lansio Bond Cymunedol

Cytunodd Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent heddiw i lansio cynllun buddsoddi newydd blaengar i gyllido prosiectau ynni carbon isel a seilwaith. Bydd y cynllun yn canolbwyntio i ddechrau ar godi arian i’w buddsoddi mewn prosiectau ynni a gwres ar gyfer preswylwyr a busnesau lleol

Mae Buddsoddiad Bwrdeisiol Cymunedol (CMI) yn fond cymharol risg isel neu offeryn benthyciad a gyhoeddir gan Awdurdod Lleol yn uniongyrchol i’r cyhoedd drwy lwyfan cyllido torfol seiliedig ar y rhyngrwyd.

Cyhoeddir y bondiau i breswylwyr a buddsoddwyr o Flaenau Gwent a fyddai maes o law yn derbyn adenilliad canrannol ar eu buddsoddiad yn dechrau o cyn lleied â £5.

Manteision bondiau CMI yw:
• Cyfle i’r cyhoedd fuddsoddi mewn mesurau carbon isel
• Creu swyddi mewn diwydiannau carbon isel
• Mynediad i ynni carbon isel ar gyfer busnesau a chymunedau
• Help i gefnogi cyflenwi carbon isel a gostwng ôl-troed carbon ar gyfer yr ardal fel yr amlygir yng Nghynllun Datgarboneiddio Blaenau Gwent
• Bod â’r potensial i gynorthwyo’r Cyngor i wireddu ei uchelgais i fod yn sefydliad carbon-niwtral erbyn 2030

Ychwanegodd y Cynghorydd David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Mae datblygu’r math yma o fuddsoddiad yn gyffrous gan ei fod yn dangos ein huchelgais fel Cyngor blaengar wrth i ni anelu i ddarparu gwasanaethau ansawdd da sy’n bwysig i’n cymunedau. Bydd hefyd yn diogelu ac yn gwella ein hamgylchedd a seilwaith, gan fod o fudd i’n cymunedau drwy ddatblygu ynni lleol carbon isel.”

Gallai’r cyllid helpu llawer o ddatblygiadau seilwaith carbon isel, gyda rhai ohonynt yn cael eu rhestru ym Mhrosbectws Ynni 2019, tebyg i gynhyrchu ynni hydro, ynni solar ac ynni gwynt. Bydd prosiect SocialRES, a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd, yn anelu i ddod ag ystod o bartneriaid ynghyd sy’n cynnwys datblygwyr, rhanddeiliaid cymunedol a’r Cyngor i greu bond buddsoddiad cymunedol yn unol â gofynion lleol, tra hefyd yn diwallu’r uchelgais carbon isel ar gyfer Blaenau Gwent.