Blaenau Gwent yn dod yn gymuned gyda chysylltiad 5G

Mae ysgolion ym Mlaenau Gwent yn dysgu sut y gallai cysylltiad 5G drawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio gyda phrofiad Realiti Estynedig newydd a gyflwynir fel rhan o Datgloi 5G Cymru, prosiect arloesedd a gaiff ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a gwahanol bartneriaid y prosiect.

Fel un o bartneriaid prosiect Datgloi 5G Cymru bu Louise Juliff, arweinydd tîm Rhaglen Hwuyluso STEM Blaenau Gwent, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Jam Creative Studios a Technocamps i greu ffordd o addysgu’r genhedlaeth newydd am fanteision 5G. Y penderfyniad oedd creu rhaglen gyfoethogi yn seiliedig ar gêm Realiti Estynedig – gan ddod yn fyw â’r buddion y gallai cysylltedd uwch ei roi i drefi fel Glynebwy.

Datblygodd Louise Juliff drosolwg o’r cynnwys a’i alinio gyda blaenoriaethau STEM ym Mlaenau Gwent a’r Cwricwlwm i Gymru. Esboniodd:
“Mae Blaenau Gwent yn rhan o raglen Cymoedd Technoleg a’r nod yw gwneud yr ardal yn ganolfan uwch dechnoleg felly roedd y prosiect hwn yn hollol gydnaws gyda hynny. Fe wnaethom sicrhau fod cynnwys y rhaglen yn cysylltu gydag agweddau lleol diwydiant lleol. Hefyd gyda’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno, fe wnes sicrhau bod y cynnwys yn cyfrannu at y meysydd dysgu perthnasol, yn ogystal â’r pedwar diben. Mae hyn yn ei ymwreiddio’n gadarn gyda’r hyn mae athrawon eisoes yn ei gyflwyno ac yn cyfoethogi profiad dysgwyr. Rydym hefyd yn ymchwilio posibiliadau datblygu’r fformat ymhellach drwy ei gysylltu gydag Amgylchedd Trochi 5G, gan roi profiad crwn iawn i’r genhedlaeth nesaf.

Mae’r gêm Realiti Estynedig, a ddatblygwyd gan Jam Creative Studios ac a gyflwynir mewn ysgolion gan Technocamps, yn galluogi dysgwyr i weithio mewn timau i ddatgloi cysylltedd 5G o amgylch tref 3D rithiol drwy gynnal gweithgareddau STEM llawn hwyl.

Yn cael eu chwarae gan grwpiau bach ar iPads, mae’r gweithgareddau yn cwmpasu rhai o’r llu o wahanol sectorau y bydd cysylltedd 5G yn eu trawnewid yn cynnwys gofal iechyd, amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, ailgylchu a thrafnidiaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i weld newid clir mewn seilwaith wrth iddynt gerdded o amgylch ac ymchwilio’r amgylchedd tref rithiol 3D fawr yn fanwl.

Wedi’i anelu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 6 a 7, bydd y profiad hefyd yn helpu gyda phontio o addysg gynradd i addysg uwchradd, gan y bydd dysgwyr arweiniol digidol blwyddyn 7 yn gweithio gyda blwyddyn 6 wrth iddynt wneud eu tasgau.

“Rydym wedi defnyddio technoleg angor cwmwl i alluogi athrawon mewn gwahanol ysgolion i osod y dref rithol mewn ystafell ddosbarth o’u dewis nhw. Caiff y profiad wedyn ei angori yn yr ardal honno fel y gall y dysgwyr gerdded o’i chwmpas ar ben eu hunain a rhyngweithio gyda hi”, esboniodd Adam Martin-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Jam Creatie Studios, sy’n bartneriaid ym mhrosiect Datgloi 5G Cymru ac maent wedi datblygu’r profiad wrth ochr profiadau rhyngweithiol yng Nghastell Rhaglan ac o fewn ystafell ddosbarth trochi BT yng Nglynebwy.

Dywedodd Stewart Powell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technocamp:
“Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno gweithdai i ysgolion cynradd yn yr ardal i addysgu pobl ifanc ar sut mae 5G yn gweithio a sut y caiff ei ddefnyddio, gan chwalu chwedlau am 5G a sut y caiff ei caiff ei ddefnyddio fel cyfrwng i gyflwyno technoleg o’r fath ddiweddaraf ar draws y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd athro o’r ysgol sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y prawf:
“Roedd y gweithdy yn broffesiynol a chyfeillgar iawn. Fe wnaeth y dysgwyr fwynhau’r sesiwn yn fawr.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Mae Llywodraeth Cymru, drwy fuddsoddiad Cymoedd Technoleg, yn falch i fod wedi arwain ar gyflwyno prosiect Datgloi 5G Cymru, sy’n cyflymu defnydd 5G ar draws Blaenau Gwent a Sir Fynwy.

“Mae datblygu sgiliau digidol y genhedlaeth nesaf yn allweddol i’n huchelgais i fod yn genedl ddigidol hyderus ac rwy’n falch iawn fod ein buddsoddiad yn Technocamps yn ein helpu i gyflawni’r uchelgais hwnnw.

“Mae Rhaglen Cyfoethogi 5G yn un o’r llu o ffyrdd hwyliog a rhyngweithiol i helpu datblygu’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ein disgwyr i sicrhau budd o economi cynyddol ddigidol a newidiol".

I gael y newyddion diweddaraf am STEM ym Mlaenau Gwent, dilynwch @BGCBCSTEM ar Twitter.

Partneriaid: