Blaenau Gwent yn cytuno i ddatblygu Tîm Fy Nghefnogaeth (MyST) annibynnol

Cytunodd Cyngor Blaenau Gwent heddiw i ddatblygu tîm MyST annibynnol. Mae hyn yn dilyn cynllun cydweithio llwyddiannus gyda Chyngor Sir Fynwy a fu’n gweithredu ers mis Mai 2019.

Mae MyST yn darparu gwasanaeth maethu therapiwtig dwys aml-ddisgyblaeth i blant sy’n derbyn gofal. Mae’r tîm yn gweithio’n helaeth gyda phlant sydd mewn gofal preswyl ar hyn o bryd gyda’r nod o ddod â nhw’n nes at Flaenau Gwent a chael eu lleoli gyda gofalwyr maeth neu berthnasau. Mae’r tîm hefyd yn gweithio gyda’r plant hynny gydag anghenion cymhleth sydd mewn gofal ar hyn o bryd ac sydd mewn risg o fynd i ofal preswyl i atal hynny rhag digwydd.

Ers y dechreuodd MyST weithredu ym mis Mai 2019, mae’r gyllideb plant preswyl wedi symud o sefyllfa o orwariant i sefyllfa tanwariant sylweddol. Mae hyn fel canlyniad uniongyrchol o gael MyST a thîm 14+ yn gweithio’n galed i symud plant allan o ofal preswyl ac yn nes at Flaenau Gwent.

Ar hyn ó bryd, mae gan MyST restr aros oherwydd diffyg capasiti. Mae hyn yn achosi dwy risg, sef plant yn aros mewn gofal preswyl am fwy o amser nag sydd angen a phlant yn mynd i ofal preswyl oherwydd na fedrai MyST gynnig cymorth ataliol. Bydd datblygu MyST Blaenau Gwent yn rhoi mwy o allu i weithio gyda phlant Blaenau Gwent i liniaru’r ddau risg yma.

Yn ystod 20/21 gwelodd Gwasanaethau Plant gynnydd sylweddol yn lefel yr anghenion cymhleth y mae plant yn eu dangos. Y plant hyn sydd angen cymorth therapiwtig dwys y gall arbenigwyr MyST ei gynnig pan gynyddwyd eu capasiti.

Mae MyST yn gweithio i gyflawni’r deilliannau dilynol ar gyfer plant:

• Plant yn cael eu lleoli’n nes gartref fydd yn eu galluogi i gynnal perthynas gyda’u teuluoedd a ffrindiau
• Cynyddu sefydlogrwydd lleoliad
• Gwella presenoldeb mewn ysgolion
• Gwella llesiant emosiynol

Mae MyST yn anelu i wella deilliannau ar gyfer plant a gafodd brofiadau niweidiol lluosog yn ystod eu plentyndod ac sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth a heriol. Maent yn cysylltu gyda’r holl rwydwaith cefnogaeth o amgylch y plentyn. Mae’n enghraifft ardderchog o sut mae’r Bartneriaeth Plant a Theuluoedd yn cydweithio i wella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Nod datblygu’r gwasanaeth yw hybu a gwella gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc yn y tymor hirach. Bydd dod â phlant yn nes gartref yn eu galluogi i ffurfio rhwydweithiau cymorth lleol yn eu cymunedau a fydd yn ddi-os o fudd iddynt i’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Bu’r MyST ar y cyd rhwng Blaenau Gwent a Sir Fynwy yn llwyddiant enfawr ac yn glod i’n staff ymroddedig. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb eu hymroddiad a’u gwaith caled. Mae’n rhoi ein Gwasanaethau Cymdeithasol wrth galon ein cymunedau lleol yn awr ac i’r dyfodol.

“Rwy’n hyderus y bydd datblygiad MyST Blaenau Gwent yn rhoi buddion pellgyrhaeddol i rai o’n plant a theuluoedd mwyaf bregus yn ystod eu cyfnod o angen mwyaf.

“Diolch i chi gyd am eich gwaith caled a’ch cefnogaeth dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.”