Awdurdodau lleol yn gweithio i herio hiliaeth

Roedd yr wythnos ddiwethaf yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, wythnos genedlaethol o weithredu yn annog awdurdodau lleol, partneriaid allweddol a chymunedau y mae troseddau casineb wedi effeithio arnynt i gydweithio i fynd i’r afael â materion troseddau casineb lleol.

Eleni bu Tîm Cydlyniaeth Cymunedol Gwent yn cydweithio gyda Dreigiau Gwent gan ddefnyddio rygbi fel y catalydd i ennyn diddordeb y gymuned a lledaenu neges yr ymgyrch genedlaethol #MaeCasinebynBrifoCymru

Ynghyd â’i gyd-awdurdodau lleol ar draws Gwent, bu Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio gydag ysgolion i herio hiliaeth a throseddau casineb a hefyd i hyrwyddo cynhwysiant a dathlu amrywiaeth yr ardal. Y llynedd cymerodd ysgolion ran mewn cystadleuaeth poster gwrth-hiliol a drefnwyd gan Cydraddoldeb Hiliol yn Gyntaf. Cynhyrchodd ysgolion ar draws yr ardal weithiau celf grymus yn dangos negeseuon yn hyrwyddo cydraddoldeb a dangos nad oes gan gasineb unrhyw le mewn rygbi na’n cymuned.

Prif enillydd y gystadleuaeth oedd Spencer Knight o Ysgol Gatholig St Albans ac mewn partneriaeth gyda Rygbi Dreigiau; derbyniodd Spencer a’i deulu docynnau cyfarch i’r gêm yn erbyn y Stormers ddydd Gwener diwethaf. Cyflwynwyd crys rygbi Rygbi Dreigiau wedi’i lofnodi i Spencer hanner amser gan Keiron Porter, swyddog cydraddoldeb y sefydliad.

“Mae’n dda gweithio gyda’r awdurdod lleol a chefnogaeth i ddioddefwyr i fynd i’r afael â phob math o gasineb mewn rygbi a’r gymuned yn ehangach. Rydym eisiau hyrwyddo fod rygbi i bawb ac nid oes unrhyw le ar gyfer casineb yn ein gêm”Kieron Porter, Rygbi Dreigiau.

Rhoddwyd nwyddau am ddim i gefnogi dioddefwyr gan gefnogwyr a ddaeth at stondin ymwybyddiaeth troseddau casineb a sefydlwyd yn y babell brysur yn ystod gweithgareddau cyn y gêm.

Dywedodd Mike Morgan, Swyddog Cydlyniaeth Cymunedol yng Ngwent:

“Mae rygbi yn rhan fawr o’n diwylliant yng Ngwent, nid yw’n rhaid i chi fynd ymhell i weld y set nesaf  o +byst rygbi yn yr ardal yma. Bydd awdurdodau lleol Gwent a’r Dreigiau yn parhau â’n partneriaeth i ddod â gwahaniaethu i ben a sicrhau fod pawb yn teimlo’n ddiogel gydag ymdeimlad o berthyn yn eu cymuned.”