Apêl Anrhegion Nadolig 2021 - Gwasanaethau Plant Blaenau Gwent

Roeddem am fanteisio ar y cyfle hwn i rannu gyda chi pa mor anhygoel oedd ein Hapêl Anrhegion Nadolig flynyddol ar gyfer 2021.

Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl roddion gwych a gawsom, a helpodd i gefnogi rhai o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau lleol. Eleni derbyniodd pob plentyn neu unigolyn ifanc a enwebwyd fag o deganau ac anrhegion a blwch dewis.

Mae haelioni’r unigolion yn ein cymunedau, a chwmnïau a sefydliadau o fewn a thu allan i Flaenau Gwent, yn ddigynsail. Aeth yr apêl i lefel arall eto eleni, gyda 390 o blant a phobl ifanc yn cael eu henwebu o ystod o dimau, gwasanaethau, ysgolion a sefydliadau ar draws Blaenau Gwent.

Mae cydgysylltu apêl mor fawr yn her ac mae’n rhaid i ni roi clod enfawr i’r holl staff o dimau o fewn y Gwasanaethau Plant a sefydliadau lleol eraill sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Diolch unwaith eto i bawb a wnaeth Apêl Anrhegion Nadolig 2021 yn llwyddiant ysgubol arall.

Mae’r adborth a gawsom gan deuluoedd yn anhygoel! Isod mae rhai o’r negeseuon yr ydym wedi’u derbyn gan deuluoedd a gefnogwyd drwy’r apêl hon.

Dymuniadau gorau i chi i gyd ar gyfer 2022!

Mae Gwasanaethau Plant Blaenau Gwent yn diolch i bawb a gyfrannodd yn garedig i Apêl Anrhegion Nadolig 2021. Gweler y rhestr lawn o fewn y cylchlythyr.

08000 32 33 39 fis@blaenau-gwent.gov.uk www.bgfis.org.uk Canolfan Plant Integredig y Cymoedd Canol, Stryd Fawr, Blaenau, Blaenau Gwent. NP13 3BN