Annog pleidleiswyr i gofrestru i ddweud eu dweud ym mis Mai

Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yn/ym/yng Cyngo Blaenau Gwent yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar eu cyngor lleol.

Er mwyn pleidleisio ym mis Mai, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Mae'r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn prysur nesáu, acmae  Blaenau Gwent yn annog pobl nad ydynt wedi cofrestru yn eu cyfeiriad cyfredol i sicrhau eu bod yn cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Iau 14 Ebrill. Pum munud mae'n ei gymryd i wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Eleni, bydd trigolion yn/ym/yng Cyngor Blaenau Gwent yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy'n cynrychioli eu hardal leol a'i thrigolion ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.

Dywedodd Andrea Jones y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cyngor Blaenau Gwent:

“Nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn. Maent yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy'n eich cynrychioli ar faterion sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yn/ym/yng Blaenau Gwent Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.”

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:

“Ni allwch leisio eich barn yn yr etholiadau hyn oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae'n hawdd cofrestru a bydd ond yn cymryd pum munud.

“Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae'n arbennig o bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir. 

“Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os oes unrhyw amheuaeth, gallwch gadarnhau â'ch awdurdod lleol drwy ffonio 01495 355086."

Gall pobl ddewis pleidleisio mewn sawl ffordd – yn bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 19 Ebrill, a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 26 Ebrill.

I gael gwybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, gall pleidleisiwyr fynd i www.comisiwnetholiadol.org.uk/pleidleisiwr. Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn yr etholiadau.