Adfer Bwa Mawr hanesyddol Glynebwy

Cafodd y Bwa Mawr yng Nglynebwy, un o’r pontydd rheilffordd cynnar mwyaf ym Mhrydain lle defnyddid ceffylau i dynnu llwythi ac oedd yn nodweddu lle’r dref yn hanes gwneud haearn a dur yng Nghymru, ei adfer i’w ogoniant blaenorol.

Wedi’i hadeiladu yn 1813, roedd y Bwa Mawr unwaith yn borth gogleddol i Waith Haearn Glynebwy ac yna mewn blynyddoedd diweddarach i waith dur enfawr Glynebwy. Mae bellach yn un o’r ychydig bethau sydd wedi goroesi i’n hatgoffa am orffennol diwydiannol cyfoethog yr ardal.

Mae’r strwythur 200 mlwydd oed mewn cyflwr rhesymol am ei oedran, oherwydd fod rhannau o gonsyrn strwythurol ym maril y bwa maen (tebyg i uniadau agored a mannau gwag) a achoswyd gan ddŵr yn mynd drwy’r strwythur yn ddi-dor dros y blynyddoedd. Fel canlyniad, gwnaed difrod sylweddol i ffabrig y bwa gyda wyneb y gwaith maen yn dadlamineiddio a’r uniadau morter yn cael eu golchi bant.

Lluniodd Adran Peirianneg y Cyngor gynnig i ddatrys y problemau a chadw’r strwythur a gafodd ei gymeradwyo gan CADW, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Gwnaed y gwaith gan STRESS (Structural Repairs & Specialist Services).

Ail agorodd y ffordd dan y bwa yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Lle ac Amgylchedd:

“Rwy’n hynod falch y gallodd y Cyngor adfer a chadw’r rhan unigryw hwn o dreftadaeth ddiwydiannol Blaenau Gwent. Gwn na fu’n syml ar adegau felly diolch i bawb a fu’n gysylltiedig.

“Mae sicrhau fod ein seilwaith lleol yn addas i’r diben yn bwysig i’n preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i breswylwyr lleol a phawb sy’n defnyddio’r ffordd yn gyson am eu hamynedd tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo.”

Adfer “Bwa Mawr” hanesyddol Glynebwy