£150 Cymorth Costau Byw

£150 Cymorth Costau Byw (Mae cofrestru bellach ar gau) 

Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid lenwi’r ffurflen gofrestru a byddant yn derbyn taliad yn awtomatig. Fodd bynnag, nid oedd yn bosibl gwneud taliadau i bob cwsmer a bydd y cwsmeriaid hyn yn derbyn ffurflen gofrestru i wneud cais ar-lein.

Anfonir llythyr cofrestru atoch gyda chod mynediad unigryw i’ch galluogi i wneud eich cais ar-lein yn dilyn y ddolen uchod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am daliadau debyd uniongyrchol neu’r broses gofrestru, edrychwch ar y cwestiynau cyffrredin yn gyntaf os gwelwch yn dda a dylai hyn ateb unrhyw anawsterau a all fod gennych ac esbonio’r camau nesaf.

Cwestiynau Cyffredin Cynllun Cymorth Costau Byw

Ar 15 Chwefror 2022 cafodd pecyn o fesurau ei gyhoeddi fel rhan o Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi i helpu pobl gydag argyfwng costau byw. Mae’r pecyn yn cynnwys £152M i ddarparu taliad £150 costau byw i aelwydydd cymwys (y prif gynllun) a £25m i ddarparu cymorth dewisol ar gyfer dibenion eraill yn gysylltiedig â chostau byw.

Bwriedir i’r cynllun roi cymorth uniongyrchol wrth i Gymru sicrhau adferiad o’r pandemig a rhoi cymorth i aelwydydd i ddelio gydag effaith cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.

Prif Gynllun Cymorth Costau Byw
Manylion Cymhwyso Swm Talu Rhai sy’n talu Treth Gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol Rhai heb fod yn Talu Treth Gyngor drwy Ddebyd uniongyrchol
Os ydych yn byw mewn cartref band A i D fel ar 15 Chwefror 2022 £150.00
  •    Byddwch yn derbyn taliad o £150 i’ch cyfrif banc yn awtomatig;
  •  Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau pan wneir y taliad;
  • Gallwch ddisgwyl derbyn hyn dros y 6 wythnos nesaf (rhoddir diweddariad ar yr amserlenni disgwyliedig yma)
  • Byddwch yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer y taliad;
  • Mae’n rhaid i chi aros i dderbyn eich llythyr i gofrestru;
  • Byddwch yn derbyn eich llythyr dros yr wythnosau i ddod;
  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich taliad yn dilyn maes o law.
  •  Gofynnir i chi gadw eich hysbysiad Treth Gyngor yn ddiogel gan y byddwch ei angen i gofrestru.

 123

Cynllun Cymorth Costau Byw cartref band E i I 

Manylion Cymhwyso Swm Talu Rhai sy’n talu Treth Gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol Rhai heb fod yn Talu Treth Gyngor drwy Ddebyd uniongyrchol
Os ydych yn byw mewn cartref band E i I ac yn derbyn Cymorth Gostwng Treth Gyngor fel ar 15 Chwefror 2022  £150.00
  • Byddwch yn derbyn taliad o £150 i’ch cyfrif banc yn awtomatig;
  • Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau pan wneir y taliad;
  • Gallwch ddisgwyl derbyn hyn dros y 6 wythnos nesaf (rhoddir diweddariad ar yr amserlenni disgwyliedig yma)
  • Byddwch yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer y taliad;
  • Mae’n rhaid i chi aros i dderbyn eich llythyr i gofrestru;
  • Byddwch yn derbyn eich llythyr dros yr wythnosau i ddod;
  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich taliad yn dilyn maes o law.
  • Gofynnir i chi gadw eich hysbysiad Treth Gyngor yn ddiogel gan y byddwch ei angen i gofrestru.

Yn ychwanegol, caiff cynllun dewisol hefyd ei sefydlu i roi cymorth i gartrefi a all fod mewn trafferthion ond heb fod yn cyflawni’r meini prawf uchod ar gymhwyster. Mae manylion y cynllun dewisol hyn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a chyhoeddir canllawiau pellach pan fyddant ar gael. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy’r cyfrwng hwn.

Cwestiynau Cyffredin

C, Rwyf wedi derbyn fy mil treth gyngor ond nid oes manylion y taliad ar y bil. A ddylai’r taliad o £150 fod wedi ei gymryd oddi ar fy mil treth gyngor?

A, Na. Nid yw taliadau Cymorth Costau Byw yn daliadau treth gyngor ac ni chânt eu defnyddio i ostwng bil treth gyngor ar gyfer unrhyw breswylydd. Caiff y taliadau eu gwneud i bob aelwyd gymwys a all ddefnyddio’r arian fel y dymunant.

C, A oes angen i mi gysylltu â’r cyngor lleol i ofyn am y taliad yma?

A, Na, nid oes angen i chi gysylltu â’r Cyngor lleol. Byddwch yn derbyn y taliad yn awtomatig os ydych yn gymwys ac yn talu eich Treth Gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol. Ar gyfer unrhyw fath arall o dalu byddwch yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i gofrestru eich manylion banc. Ni allwch wneud hyn nes y derbyniwyd eich llythyr.

C, Bydd grwpiau o aelwydydd incwm eraill nad ydynt yn gymwys. Pam na chafodd y rhain eu cynnwys fel bod yn gymwys ar gyfer y cynllun?

A, Caiff Cynllun Dewisol hefyd ei ddarparu i gynorthwyo aelwydydd eraill nad ydynt yn gymwys dan y prif gynllun.

C, A fydd y taliad £150 yn effeithio ar fuddion prawf modd?

A, Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau y caiff taliadau a wneir dan ddarpariaeth llesiant lleol eu diystyrru wrth asesu Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm a Lwfans Cyflogaeth a Cymorth Cysylltiedig g Incwm felly ni effeithir ar hyn. Hefyd ni fydd hawlwyr Credyd Cynhwysol yn gweld eu hawl yn newid fel canlyniad i dderbyn y taliad.

C, Mae perchennog tŷ sydd â’u prif gartref yn Lloegr wedi gwneud cais i’r cynllun am eu hail gartref yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am dalu’r dreth gyngor ac am dalu’r biliau tanwydd yn yr adeilad. A ydynt yn gymwys am daliad?

A, Na.  Mae’r cynllun yno i gefnogi aelwydydd yn eu prif breswylfa yn unig.

C, Mae perchennog tŷ yn berchen dau gartref yng Nghymru. A ydynt yn gymwys am gymorth drwy’r cynllun?

A, Dim ond ar gyfer yr adeilad y maent yn byw ynddo fel eu prif breswylfa (os ydynt yn byw yn un o’r adeiladau hyn fel eu prif breswylfa).

C, A oes dyddiad targed ar gyfer gwneud taliadau?

A, Na. Caiff cynghorau eu hannog i wneud taliadau yn amserol cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ar ôl penderfyniad llwyddiannus.

C, A all perchennog tŷ apelio yn erbyn penderfyniad i beidio dyfarnu taliad dan y Cynllun Cymorth Costau Byw?

A, Na. Nid oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad i beidio dyfarnu taliad gan y bydd gwrthodiad yn codi oherwydd nad yw’r aelwyd yn cyflawni amodau’r cynllun. Dylai cynghorau edrych ar ailystyried achosion lle caiff eiddo ei restru yn ôl-weithredol fel bod yn atebol am dreth gyngor.