Asesiad Blynyddol o Berfformiad

Mae data cyfredol a chywir ar berfformiad yn hanfodol er mwyn i’r Cyngor reoli ei wasanaethau a monitro pa mor dda mae’r gwasanaethau hynny yn gwella. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol i gyfrif am ei berfformiad yn y flwyddyn flaenorol.

Mae’n rhaid i’r adroddiad hwn gynnwys diweddariad ar gynnydd y Cyngor yn cyflawni ei amcanion gwella a gytunwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, fel y nodir yn y Datganiad Llesiant a gyhoeddwyd, ynghyd â pherfformiad y Cyngor a adroddwyd ar Fesurau Atebolrwydd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Mae’r dangosyddion hyn yn galluogi pob Cyngor yng Nghymru i gymharu ei berfformiad gyda pherfformiad yr holl gynghorau eraill yng Nghymru. Mae manylion ein perfformiad o gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru ar gael yn www.mylocalcouncil.info 

Mae manylion llawn perfformiad y Cyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar gael islaw: