RDDT

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Beth yw'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol?

Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yw'r fframwaith cyfreithiol newydd yn yr Undeb Ewropeaidd a ddaw i rym ar 25 Mai 2018. Bydd hefyd Ddeddf Diogelu Data newydd sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd. Bydd y Ddeddf newydd hon yn atodi'r GDPR ac yn rhoi hawliau newydd i unigolion ynghylch eu data personol.

Swyddog Diogelu Data

Dan y gyfraith newydd, mae'n rhaid i'r Cyngor fod â Swyddog Diogelu Data wedi'i enwi sy'n gyfrifol am faterion diogelu data ac sydd ar gael i aelodau'r cyhoedd gysylltu ag ef. Steve Berry yw Swyddog Diogelu Data y Cyngor. Os dymunwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at DataProtection@blaenau-gwent.gov.uk 

Beth fydd y gyfraith newydd yma'n ei olygu i fi?

Mae hawliau unigolion am sut y caiff ei data personol ei drin a'i storio yn cael eu newid a'u gwella. Gallwch ddarllen mwy am hawliau GPDR ar  wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Bydd gennych hawl i wybod sut y cafodd y data ei brosesu a gwneud ceisiadau, mewn rhai amgylchiadau. Caiff y rhain eu hamlinellu islaw.

Gallwch weld hysbysiad preifatrwydd y Cyngor drwy ddilyn y ddolen yma

I wneud cais am wybodaeth  gadwn amdanoch  - cais gwrthrych am wybodaeth

Dan y gyfraith newydd, fel nawr, gall pawb wneud cais ysgrifenedig i'r Cyngor am yr wybodaeth y mae'n ei chadw amdanynt. Gofynnir i chi ddim ond gofyn am yr wybodaeth rydych ei hangen, er mwyn arbed amser a'n galluogi i fod yn fwy effeithiol. Ni fydd unrhyw ffi pan ddaw'r gyfraith newydd i rym. Bydd angen i chi roi tystiolaeth o bwy ydych a'ch cyfeiriad. Unwaith y bydd gennym gais dilys bydd gennym fis i roi'r wybodaeth y gofynnir amdani a gellir ymestyn y cyfnod mewn rhai amgylchiadau. Bydd gennym ganiatâd (fel yn awr) i ddileu (redact) gwybodaeth, er enghraifft, gyngor cyfreithiol neu wybodaeth am bobl arall. Bydd gennym ffurflen ar y we i chi wneud cais gwrthrych am wybodaeth, yn y cyfamser dylid anfon ceisiadau at  foi@blaenau-gwent.gov.uk .  

Cydsyniad

Os ydym yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich data, gallwch wneud cais am ddileu caniatâd neu gyfyngu/gwrthwynebu rhai elfennau o'r prosesu. Nid yw'r Cyngor yn dibynnu ar gydsyniad yn y rhan fwyaf o achosion oherwydd fod ganddo ddyletswyddau cyfreithiol i wneud rhai tasgau. Er enghraifft mae prosesu ceisiadau cynllunio, casglu taliadau'r Dreth Gyngor a thasgau gwaith cymdeithasol yn seiliedig ar ddyletswyddau cyfreithiol, nid ar gydsyniad.

Sail gyfreithiol

Bydd angen i ni ystyried seiliau cyfreithiol priodol ar gyfer prosesu eich data os ydych wedi cydsynio i'r prosesu ac yn penderfynu yn ddiweddarach eich bod yn atal eich cydsyniad.

Tryloywder

I gydymffurfio â'r gyfraith newydd mae'n rhaid i ni roi gwybodaeth fanwl ar pam a sut yr ydym yn prosesu data personol.

Cludadwyedd data 

I drosglwyddo data personol o'n system prosesu electronig i mewn i system brosesu electronig sefydliad arall.

Dileu

Lle'r ydym yn dibynnu ar eich cydsyniad fel eich sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol, mae gennych hawl i atal eich cydsyniad a gofyn am ddileu eich data. Fel yr esbonnir uchod, ni fyddwn yn dibynnu ar gydsyniad mewn llawer o achosion.

Cywiriad

Ar ôl 25 Mai 2018 bydd gennych yr hawl i wneud newidiadau i ddata anghywir.

Penderfyniadau awtomatig a phroffilio

Ar ôl 25 Mai 2018, os ydym yn prosesu eich data personol yn seiliedig ar benderfyniadau awtomatig ac y bydd hyn yn cael effaith gyfreithiol neu effaith arwyddocaol gyffelyb arnoch, gallwch ofyn am esboniad ysgrifenedig am y penderfyniad a wnaed a gallwch herio canlyniadau'r penderfyniad. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwneud unrhyw benderfyniadau awtomatig neu broffilio a ddaw dan y diffiniad yma.

Atebolrwydd

Pan ddaw i rym, bydd yn rhaid i ni fedru dangos sut ydym yn cydymffurfio gyda'r gyfraith newydd wrth gasglu a phrosesu eich data personol.

Sylweddolwn y gall yr hawliau newydd hyn ymddangos yn gymhleth. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Os ydych angen help i weithredu eich hawliau newydd pan ddaw'r gyfraith newydd i rym ym Mai 2018 gallwch gysylltu â chanolfan gyswllt y Cyngor, neu anfon e-bost at DataProtection@blaenau-gwent.gov.uk .

Data personol a 'chategorïau arbennig o ddata personol'

Dim ond ar gyfer 'data personol' y bydd y gyfraith newydd yn weithredol. Gallwch ddarllen mwy am ddata personol a'r rheoliadau GDPR newydd ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd data personol categori arbennig yn ddata personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credo grefyddol neu athronyddol , neu aelodaeth undeb llafur, neu am eu hiechyd, bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol ac yn cynnwys data genetig a biometrig. Bydd angen i'r Cyngor gydymffurfio gyda mwy o fesurau diogelwch wrth brosesu data personol arbennig.

Ymrwymiadau'r Cyngor dan GDPR

Ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fydd sicrhau bod y data yn:

  • Cael ei brosesu'n gyfreithiol, yn deg ac mewn modd tryloyw.
  • Cael ei gasglu ar gyfer diben penodol a dilys. Ni chaiff ei ddefnyddio ar gyfer dim byd heblaw'r diben a nodwyd.
  • Perthnasol ac wedi'i gyfyngu i beth bynnag yw'r gofynion y caiff ei brosesu ar ei gyfer.
  • Cywir, a lle bo angen, yn cael ei gadw'n gyfredol. Caiff unrhyw gamgymeriad ei ddiwygio neu ei dynnu heb oedi gormodol.
  • Cael ei storio cyhyd ag sydd angen, fel y nodir yn ein polisi cadw cofnodion.
  • Cael ei ddiogelu gyda datrysiadau priodol, sy'n gwarchod y data rhag cael ei brosesu heb awdurdod neu anghyfreithlon a rhag colled, dinistr neu ddifrod damweiniol.

Bydd y Cyngor yn arddangos ei gydymffurfiaeth gyda'r egwyddorion yma.

Ymrwymiad y Cyngor i brosesu data personol yn gyfreithlon

Bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn cyflawni'r amodau angenrheidiol ar gyfer prosesu data personol yn gyfreithlon a bydd yn sicrhau y caiff hyn ei gofnodi'n ddigonol. Mae nifer o ffyrdd y gall prosesu fod yn gyfreithlon. Mae cydsyniad yn un dull, ond mae'n bwysig gwybod nad oes angen cydsyniad bob amser ac y gall y Cyngor brosesu data personol yn gyfreithiol cyhyd ag y cyflawnir amodau. Gallwch ddarllen mwy am yr amodau ar  wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth .