Diogelu Data

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rheoleiddio prosesu gwybodaeth yn ymwneud ag unigolion. Mae hyn yn cynnwys cael, cadw, defnyddio neu ddatgelu gwybodaeth o'r fath. Gweithredir y Ddeddf gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac mae Cyngor Bwrdeisdref Blaenau Gwent wedi cofrestru gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth fel Rheolwr Data. 

Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n trin gwybodaeth bersonol i gydymffurfio gyda nifer o egwyddorion pwysig. Mae hefyd yn rhoi hawliau i unigolion dros eu gwybodaeth bersonol. 

Mae Polisi Diogelu Data gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent mewn ymateb i Ddeddf Diogelu Data 1998. 

I gael mwy o wybodaeth ar y Ddeddf Diogelu Data gallwch fynd i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth sy'n cynnwys llawer o wybodaeth am y pwnc yma, atebion i gwestiynau cyffredin a chopi o'r Ddeddf y gellir ei lawrlwytho'n llawn.

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 

Caiff Deddf Diogelu Data 1998 ei disodli gan Ddeddf Diogelu Data 2018 yn adlewyrchu deddfwriaeth Ewropeaidd newydd a elwir y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Daw hyn i rym ar 25 Mai 2018.

Bydd y gyfraith newydd yn ymestyn hawliau unigolion ac yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sy'n cadw data personol i gydymffurfio gyda set newydd o reolau llymach.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen. 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Cyfreithiol

Rhif Ffôn: 01495 311556

Cyfeiriad E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk