Pobl yw'r allwedd i lwyddiant pob busnes. Mae tîm Adfywio y Cyngor yn cynnig datrysiad recriwtio i helpu cyflogwyr lleol ddod o hyd i'r staff cywir gyda'r sgiliau cywir. Mae'r tîm Cydlynu Cyflogaeth yn gweithio gyda phartneriaid allweddol fel y Ganolfan Byd Gwaith, Working Links, colegau lleol a darparwyr hyfforddiant i gydlynu pecyn recriwtio a sgiliau cyflawn ac anelu i gyfateb pobl leol gyda chyfleoedd swyddi lleol.
O fewn y gwasanaeth mae'r swyddogion yn gweithio gydag amrywiaeth o sectorau o arlwyo i adeiladu. Mae'r tîm hefyd yn hwyluso'r Prosiect Cydlynu Cyflogaeth a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan Barth Menter Glynebwy. Nod y prosiect yw sefydlu cronfa cyflogaeth parod am waith ac a arweinir gan alw sy'n diwallu anghenion y sectorau gweithgynhyrchu a pheirianneg lleol.
Ar gyfer Cyflogwyr, gall y Tîm Cydlynu Cyflogaeth:
- Ddarparu cefnogaeth am ddim i ateb gofynion recriwtio
- Cyfateb gweithwyr medrus lleol gyda chyfleoedd busnes
- Darparu llafur lleol drwy Gronfa Ddata Sgiliau Blaenau Gwent
- Cynnig cyngor ar gyllid
- Dynodi hyfforddiant i gynyddu sgiliau'r gweithlu presennol, a gwneud atgyfeiriadau priodol
- Darparu opsiynau ar gyfer hyfforddiant masnachol penodol i anghenion busnes
- Monitro cynnydd gweithwyr cyflogedig a gaiff eu lleoli
- Cyfeirio at gymorth busnes a rhwydweithiau ehangach
Ar gyfer preswylwyr lleol sy'n edrych am waith neu gyfleoedd newydd, gall y tîm:
- Ychwanegu eich CV at Gronfa Ddata Sgiliau Blaenau Gwent
- Gweithio gyda chyflogwyr a phartneriaid lleol i ddynodi cyfleoedd swydd
- Eich hysbysu am swyddi gwag perthnasol sydd ar y gweill
- Darparu technegau paratoi am gyfweliad drwy gefnogaeth partner
- Cyfeirio at ddarparwyr hyfforddiant a sgiliau i wella eich CV
- Mynychu digwyddiadau cyflogaeth i roi gwybodaeth am gyfleoedd sydd ar y gweill
- Cyfateb gweithwyr lleol gyda chyfleoedd swydd
Gwybodaeth Gyswllt
I drafod anghenion recriwtio/hyfforddiant neu i gofrestru eich CV ar Gronfa Ddata Sgiliau Blaenau Gwent cysylltwch â:
Gweithgynhyrchu a Pheirianneg
Laura Bull
Swyddog Cyswllt Cyflogaeth
laura.bull@blaenau-gwent.gov.uk
Adeiladu a Sectorau Eraill
Lisa Meredith
Swyddog Cyflogaeth a Menter