DIWEDDARIAD PWYSIG AM Y GWASANAETH AILGYLCHU MASNACHOL
Caiff y gwasanaeth newydd ei ymestyn o ddydd Mawrth 4 Mai 2021. Ar ôl hynny ni fyddwn yn medru derbyn Ailgylchu Cymysg Sych naill ai yn gymysg mewn biniau nac yn y bagiau ailgylchu un-tro glas a chlir. Ni fydd y bagiau ailgylchu plastig un-tro bellach yn dderbyniol i’w defnyddio o ddiwedd mis Ebrill 2021. Bydd cynwysyddion ailgylchu sych y gwasanaeth newydd eisoes gan gwsmeriaid newydd o fis Awst 2020 felly ni effeithir arnynt. Nid yw mathau biniau Gweddilliol (sbwriel) ac Ailgylchu Bwyd yn newid.
Caiff yr holl hen finiau gwasanaeth Ailgylchu Cymysg Sych eu casglu gyda biniau penodol llif gwastraff yn eu lle o ganol i ddiwedd mis Ebrill 2021 gan roi’r biniau newydd y gwnaethoch gais amdanynt yn eu lle. Y ffrydiau y gellir eu cyd-gasglu yw:
• Papur Cymysg a Chardfwrdd
• Cynwysyddion Plastig Cymysg a Chaniau Metel
• Gwydr Cymysg
Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid eisoes wedi rhoi gwybod i ni am eu gofynion am finiau ailgylchu newydd a bydd y rhan fwyaf wedi derbyn y gwaith papur ar gyfer y flwyddyn contract newydd, fodd bynnag, am nifer o resymau, mae nifer fach o gwsmeriaid presennol heb ymateb eto a rydym wedi methu cysylltu gyda nhw, yn fwyaf tebygol oherwydd iddynt orfod cau dros y cyfnod clo.
Ar gyfer y busnesau hynny nad ydynt wedi ymateb hyd yma ac sy’n dymuno cadw eu gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu masnachol gyda ni, cysylltwch â ni cyn gynted ag sydd modd os gwelwch yn dda gan y byddwch angen contract gwasanaeth newydd, dyletswydd gofal a biniau ailgylchu gwastraff sych wedi eu wahanu gan fod gan ein cerbydau ailgylchu masnach newydd 3 x rhan gyfatebol fel na fydd yn bosibl cymysgu ailgylchu tu allan i’r tri ffrwd newydd ac ni chaiff unrhyw ailgylchu cymysg a roir allan ei gasglu.
Edrychwch ar yr adran yma ar y wefan sy’n rhoi manylion yr hyn y gall a’r hyn na all ein gwasanaeth masnachol ei dderbyn ar gyfer yr ailgylchu a hefyd yr adran ar gyfer cwestiynau cyffredin.
Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r ddesg gwasanaeth ar 01495 311556 os gwelwch yn dda.
Pam dewis Gwasanaeth Gwastraff Masnach Blaenau Gwent?
Hybu enw da gwyrdd eich busnes gan fod gwasanaeth ailgylchu newydd Blaenau Gwent yn cydymffurfio’n llawn â newidiadau deddfwriaethol diweddaraf Llywodraeth Cymru i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae gwaredu â gwastraff yn fusnes difrifol. Mae'r gyfraith yn dweud fod gan unrhyw un sy'n cynhyrchu gwastraff gyfrifoldeb am sicrhau y caiff ei symud mewn modd addas gan gontractwr cofrestredig ac y gwaredir ag ef yn gywir.
Mae ein Gwasanaeth Gwastraff Masnach yn cynnig:
- Gwasanaeth dibynadwy y gallwch ymddiried ynddo
- Casgliadau wythnosol ar sbwriel ac ailgylchu
- Cerbydau dibynadwy mewn cyflwr da yn cynnwys cerbydau ailgylchu newydd
- Ystod eang o gynhwysyddion i sicrhau’r datrysiad mwyaf effeithlon o ran cost i’ch busnes
- Y Ganolfan Gyswllt ar gael bum diwrnod yr wythnos gydag opsiynau ar gyfer cysylltiad E-bost uniongyrchol gyda Swyddogion Gwastraff
- Gwybodaeth waith o fusnesau leol
- Contractau treigl 12 mis
- Cydymffurfio’n lawn gyda Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
- Cwblhau gwaith papur Dyletswydd Gofal
Ailgylchu Mwy ac Arbed Arian
Gall pob busnes sy'n defnyddio ein gwasanaeth ailgylchu ostwng cyfanswm o wastraff a gynhyrchir gan y cwmni. Felly gall mynd yn wyrdd arbed arian i chi.
Ffioedd Gwastraff Masnach
Prisiau ar gael ar gais
Ffoniwch:
01495 311556 neu E-bostio eich cais, yn cynnwys manylion cyswllt eich cwmni i: info@blaenau-gwent.gov.uk
Gofynnwn i chi:
- Dim ond rhoi deunyddiau a ganiateir a nodir yn eich contract mewn cynwysyddion
- Peidio cywasgu neu gorlenwi eich cynwysyddion (p'un ai yn ôl pwysau neu gyfaint)
- Sicrhau bod eich cynwysyddion yn hygyrch ar y dyddiau casglu a gytunwyd yn y man codi a gytunwyd.
- Bod yn ofalus gyda'r cynwysyddion rhag difrod/colli.
- Gwneud taliadau ar amser/yn gyfredol.
- Fel yn yr hierarchaeth gwastraff, gwneud defnydd llawn o'r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael a gwneud pob ymdrech i wahanu eich gwastraff yn unol â hynny
Diweddariad ar y Gwasanaeth Ailgylchu newydd
Yn unol â deddfwriaeth Amgylcheddol ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, bydd angen cyflwyno a chasglu gwastraff masnachol mewn ffordd sydd wedi ei ddidoli, yn yr un modd â chasgliadau ailgylchu o gartrefi. Caniateir rhai elfennau o gyd-gasglu, gan wneud tair prif ffrwd ar gyfer ailgylchu masnach sych fel sy’n dilyn:
- Papur a Chardfwrdd Cymysg
- Cynwysyddion Plastig a Chaniau Metel Cymysg
- Gwydr Cymysg
Mae gwasanaeth ailgylchu masnachol y Cyngor yn derbyn ystod tebyg o eitemau ailgylchu i wasanaeth ailgylchu cartrefi. Edrychwch ar y canllawiau dilynol os gwelwch yn dda i sicrhau fod y gwasanaeth yn diwallu gofynion eich busnes.
Papur a Chardfwrdd | |
Yr hyn y byddwn yn ei dderbyn: IE, OS GWELWCH YN DDA: |
Yr hyn NA fyddwn yn ei dderbyn: NA, DIM DIOLCH: |
|
|
Cynhwysyddion Plastig a Chaniau Metel | |
Yr hyn y byddwn yn ei dderbyn: IE, OS GWELWCH YN DDA: | Yr hyn NA fyddwn yn ei dderbyn: NA, DIM DIOLCH: |
|
|
Gwydr Cymysg | |
Yr hyn y byddwn yn ei dderbyn: IE, OS GWELWCH YN DDA | Gwydr Cymysg ‘Yr hyn NA fyddwn yn ei dderbyn: NA, DIM DIOLCH: |
|
|
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ffoniwch C2BG ar 01495 311556