Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

Benthyciadau Eiddo Canol Trefi

Mae benthyciadau di-log yn awr ar gael ar gyfer eiddo masnachol ym Mlaenau Gwent .

Mae benthyciadau ar gael i wella adeiladau gwag ac adeiladau a danddefnyddir i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol.

Gellir hefyd ddefnyddio benthyciadau i gaffael eiddo, i gael mwy o wybodaeth:5
E-bost :- regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Ffôn Symudol - 07790545307 Karen Williams
Ffôn Symudol - 07580858576 Amanda Phillips

Amodol ar wiriadau fforddiadwyedd a’r Cyngor yn gweithredu arwystl cyfreithiol gofynnol.

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Sirhywi Uchaf (Tredegar)
Cronfa Trechu Tlodi Blaenau Gwent 

Gweledigaeth

Mae'r prosiect yn cyflwyno'r weledigaeth y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, hyfyw a chynaliadwy gydag economi lleol cryf ac ansawdd bywyd da. 

Neges allweddol y prosiect yw bod angen i bartneriaid o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gydweithio i gael y budd adfywio mwyaf o'r holl raglenni buddsoddi. 

Nod allweddol

Trechu tlodi drwy greu swyddi, annog datblygu sgiliau, gwella tai, darparu cyfleusterau a helpu pobl i waith.  

Prosiectau Trechu Tlodi 

Derbyniodd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent gyllid gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u Cronfa Trechu Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i gyflwyno'r prosiectau dilynol: 

Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar 

Sicrhawyd £350,000 fel arian cyfatebol tuag at weithredu Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar.

Gwella Tai - Prosiect Tlodi Tanwydd - Cyfraniad Cronfa Trechu Tlodi £150,000 

Gwariwyd £50,000 eisoes ar fesurau effeithiolrwydd ynni megis gosod boeleri newydd a gwres canolog newydd yn Castle Mews a'r cyffiniau. Gan weithio mewn partneriaeth gyda landlordiaid preifat mae £100,000 pellach o gyllid wedi'i dargedu i wneud gwaith ar doeau yn Stryd Salisbury Uchaf sydd wedi derbyn gwaith gwella arall megis insiwleiddio a boeleri newydd, gan felly arwain at brosiect gwella mwy cynhwysfawr. 


Canolfan Gymunedol STAR

Cyfraniad Cronfa Trechu Tlodi £1000 

Yng nghanol Sirhywi, bydd canolfan gymunedol newydd ar ddatblygiad preswyl arfaethedig gan Gymdeithas Tai United Welsh yn lletya Tenantiaid a Phreswylwyr Sirhywi (STAR) sydd ar hyn o bryd yn darparu ystod o weithgareddau a chefnogaeth i amrywiaeth o bobl. Bydd y cyfleuster newydd yn galluogi STAR i ddal ati i ddarparu'r gwasanaethau hyn fydd yn parhau o fudd i'r gymuned. 

Mae'r cyfanswm cyllid o £160,000 yn cynnwys £40,000 o'r Prosiect Hyfforddiant drwy Welliannau Tai, Canol Trefi a'r Amgylchedd a neilltuwyd ar gyfer cyflenwi deunyddiau i alluogi hyfforddeion i gymryd rhan ar weithredu prosiectau yng nghanolfan gymunedol arfaethedig Tenantiaid a Phreswylwyr Sirhywi. 

Cefnogaeth Gymunedol yn Nhŷ Aneurin Bevan (£85,000) 

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo (CRT) ar Drosglwyddo Ased Cymunedol Tŷ Aneurin Bevan i ddatblygu cyfleuster aml-asiantaeth fydd yn darparu ystod o wasanaethau rhyng-gysylltiedig ac ategol i unigolion a busnesau. Caiff y prosiect ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda thenantiaid, partneriaid a'r gymuned. Bydd y prosiect yn cyfrannu at adfywiad cymdeithasol ac economaidd canol tref Tredegar a chyflwyno model y gellir ei ymestyn ar draws y Fwrdeisdref Sirol ac yn ehangach. 

Bydd y gweithgareddau/cynigion dilynol gan CRT yn gweithredu o Dŷ Aneurin Bevan i gefnogi a gweithredu Agenda Gwrthdlodi Llywodraeth Cymru. 

 

  • Cyngor a chefnogaeth Cyflogaeth a Hyfforddiant drwy gynllun Cyflogaeth Teulu CRT a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd
  • Gwasanaethau cyngor a chefnogaeth CRT
  • Cyngor a chefnogaeth ar ddatblygu busnesau menter gymdeithasol
  • Gwasanaethau undeb credyd
  • Cyngor a chefnogaeth ar ddyledion
  • Gwasanaethau cyllid micro fenthyciadau
  • Cefnogaeth datblygu personol Game On i bobl ifanc. 

 

Cynigir defnyddio £85,000 o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i Dŷ Aneurin Bevan er mwyn darparu'r gwasanaethau a restrir uchod. 

Hyfforddiant drwy Welliannau Tai, Canol Trefi ac Amgylchedd (£90,000)

Bydd y prosiect yn datblygu partneriaeth rhwng y Cyngor, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Cymunedau yn Gyntaf, Fforwm Busnes Tredegar a'r CRT i ddarparu hyfforddiant i aelwydydd heb waith. Dynodwyd y sgiliau adeiladu sydd eu hangen ar gyfer gwaith adnewyddu eiddo a'r amgylchedd sy'n gydnaws â holl gynigion prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. 

Mae mwyafrif prosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn  rhoi cyfle i hyfforddi pobl mewn gweithio ar adeiladau. Mae'r gweithiau nodweddiadol yn cynnwys peintio, addurno, plastro, adnewyddu/atgyweirio adeiladau ac ati. 

Mae'r prosiect yn gydnaws â phrosiect LIFT Cymunedau yn Gyntaf er budd pobl heb waith a bydd yn gweithredu fel carreg gamu i symud ymlaen i hyfforddiant pellach fel rhan o'r cymalau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â phrosiectau adnewyddu eiddo o fewn y rhaglen gyffredinol. 

Gwelliannau Amgylcheddol Cymdogaeth Ashvale (£10,000) 

Cynhelir prosiect £465,000 ar y cyd rhwng Tai Calon, Cyngor Blaenau Gwent a phreswylwyr lleol yn Ashvale sydd o fewn ardal clwstwr Tredegar a Sirhywi Cymunedau yn Gyntaf a sefydlwyd i fynd i'r afael â thlodi a chefnogi pobl yn rhannau mwyaf amddifadus Cymru. Caiff ardal o dir gwastraff ei thrawsnewid yn ardd gymunedol ynghyd â darparu ardal chwarae ar gyfer plant, gwell parcio a ffensys terfyn newydd. Gall pobl leol gasglu eu ffrwythau eu hunain ar gyfer coginio neu eu bwyta o goed yn y berllan gymunedol. 

Mae'r cynnig hefyd yn anelu i wella'r mynediad o gymdogaeth Ashvale i Barc Gwledig Parc Bryn Bach, glanhau a chlirio'r llwybr ac adeiladu llwybr pob-tywydd pob-defnyddiwr sydd nid yn unig yn cysylltu'r gymdogaeth gyda'r parc ond hefyd gydag ysgolion cynradd lleol Bryn Bach a Sant Joseff ac yn cyfoethogi'r llwybr yn nhermau bioamrywiaeth a chanfyddiad y cyhoedd. 

Gwerir £10,000 o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i greu llwybr i gysylltu gyda llwybrau eraill yn yr ardal i lenwi'r ddolen rhwng Ashvale, Parc Bryn Bach ac ysgolion lleol.

 Partner arall yn y prosiect yw Green Shoots, a ariannir gan Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent - Opsiynau Cymunedol. Nod Green Shoots yw rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl gydag anabledd ym meysydd garddwriaeth a cerameg a gweithio o fewn y cymunedau lleol. Cynigir bod defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yng nghyfnod plannu'r prosiect a gyflwynir gan Tai Calon a Thîm Seilwaith Gwyrdd Cyngor Blaenau Gwent. 

Benthyciadau Ailgylchadwy (Preswyl)* 

"I wella anheddau sydd angen eu hadnewyddu/hatgyweirio" 

Cafodd £400,000 eu sicrhau i ddarparu benthyciadau i berchen-feddianwyr a'r sector rhent preifat i wella anheddau yng nghanol tref Tredegar sydd eu hangen eu hadnewyddu/atgyweirio. 

Mae'r benthyciadau i'w defnyddio i alluogi cartref i fod yn gynnes a diogel a gellir eu defnyddio mewn cysylltiad â chyllid grant arall (h.y. fel arian cyfatebol ar gyfer unrhyw waith preswyl fel rhan o Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar) ond ni fydd unrhyw 'ariannu dwbl' ar waith prosiectau. 

Cynllun Benthyciad Canol Tref* 

Sicrhawyd £714,000 i ddarparu benthyciadau i ostwng nifer y safleoedd gwag, nad ydynt yn cael eu defnyddio a segur a safleoedd yng nghanol y dref a chefnogi arallgyfeirio canol y dref drwy annog defnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer safleoedd ac eiddo gwag, megis preswyl, hamdden ac ar gyfer gwasanaethau allwedd. 

*Benthyciadau ac nid grantiau yw'r rhain ac felly bydd angen eu had-dalu. Caiff yr arian benthyciad a ad-delir ei ailgylchu felly gellir gwella eiddo ychwanegol a dod â hwy yn ôl i ddefnydd.

Vibrant & Viable Places

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Brian Swain

Ffon: 01495 35534

Civic Centre, Ebbw Vale, Gwent, NP23 6XB

E-bost: Brian.swain@blaenau-gwent.gov.uk