Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar

Cefndir Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar 

Mae Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar yn gynllun grant gwella adeiladau hanesyddol a gynigir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gynorthwyo gwaith adfywio mewn trefi hanesyddol ledled y Deyrnas Unedig. Caiff prosiectau cymwys fydd yn derbyn cyllid eu cwblhau o fewn y 5 mlynedd nesaf. 

Mae'r cynllun yn cydnabod fod gan Dredegar orffennol hanesyddol sylweddol a'i bod yn Ardal Gadwraeth ddynodedig. Cafodd y statws hwn ei hybu ymhellach yn 2011 gan ddynodi Craidd Hanesyddol Tredegar sy'n dilyn cylch o amgylch Cloc y Dref sydd â rhestriad Gradd II ac a ystyrir yn 'ardal o ddiddordeb pensaernïol/ hanesyddol arbennig y mae'n ddymunol ei gadw neu ei wella' ac a ddynodwyd gyda chyllidwyr i fod yn ffocws Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar. 

Ceir hyd i luniau sy’n danogs cynnydd yn y prosiectau ar waelod y tudalen o dan ddolenni cyswllt perthnasol.

Amcanion Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar 

 

  • Nid yw'r Cynllun i'w ddynodi'n unig fel cyfle cyllid ar gyfer ein hadeiladau treftadaeth.
  • Mae'r Cynllun yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth leol o nodweddion y dreftadaeth adeiledig a chymdeithasol sydd gennym y gellir eu defnyddio i hyrwyddo Tredegar fel cyrchfan fasnachol a thwristiaeth
  • Caiff y Cynllun ei weinyddu gan y Cyngor ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau gwaith ansawdd uchel a thraddodiadol o atgyweirio ac adsefydlu a chyflwyno cynlluniau ategol sy'n codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth Tredegar, gan gynyddu sgiliau treftadaeth adeiledig ac edrych ar ddefnyddio technoleg fodern i gael mynediad i'n treftadaeth.
  • Yr etifeddiaeth gadarnhaol yn ffurfio buddsoddiad y Cynllun fydd gwella ein hadeiladau, darparu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth i sicrhau y caiff yr adeiladau eu diogelu tra'n gwneud ein treftadaeth yn fwy hygyrch.

 

Prosiectau Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar 

Bydd y Cynllun yn canolbwyntio ar dri maes o waith 

1. Atgyweirio Adeiladau - Cyllid hyd at 70% ar gyfer gwaith cymwys.


Amcan y categori atgyweirio adeiladau yw sicrhau fod strwythur a ffabrig allanol adeiladau a strwythurau mewn cyflwr da ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymeriad neu ymddangosiad yr ardal gadwraeth. Dylai atgyweiriadau fod yn gynhwysfawr, yn defnyddio technegau neu ddulliau adeiladu addas a deunyddiau naturiol neu draddodiadol addas fel arfer ar sail tebyg-am-debyg. Gellir ystyried atgyweiriadau manwl os oes eu hangen i sicrhau sefydlogrwydd strwythurol. 

Mae'n rhaid ystyried effaith amgylcheddol yr atgyweiriadau arfaethedig. Nid yw deunyddiau amnewid neu artiffisial yn gymwys ac mae eu defnydd fel arfer yn annerbyniol ar brosiectau sy'n derbyn cymorth grant. 

2. Adfer Nodweddion Pensaernïol - Cyllid hyd at 90% ar gyfer gwaith cymwys

Dim ond lle mae'r adeilad mewn cyflwr da fel arall neu y caiff ei atgyweirio fel rhan o'r prosiect a bod tystiolaeth ddogfennol clir ar gael y caiff nodweddion pensaernïol eu hadfer. Os oes angen, gall adfer nodweddion pensaernïol gynnwys adsefydlu manylion coll os ceir tystiolaeth gadarn o'r nodweddion hynny. 

3. Gofod Llawr Gwag

Gellir gwneud gwaith i ofod llawr gwag mewn adeiladau cymwys, er enghraifft, lloriau uwch gwag dros siopau. Mae'n rhaid i gynigion ar gyfer gwaith o'r fath barchu cymeriad a diddordeb arbennig yr adeiladau yn fewnol yn ogystal ag yn allanol. Cynhelir asesiad grant ar gyfer prosiectau cyfan sy'n dod â gofod llawr gwag yn ô i ddefnydd yn defnyddio'r broses Diffyg Cadwraeth sydd ar ei symlaf pan fo'r gwerth presennol ynghyd â'r gost datblygu yn fwy na gwerth yr adeilad ar ôl ei ddatblygu. 

Dim ond os bernir bod elfennau allanol yr adeilad yn addas fel rhan o'r cynllun cymeradwy y bydd grantiau i ddod â gofod llawr hanesyddol gwag i ddefnydd, neu os caiff tu allan yr adeilad ei wella'n addas fel rhan o'r cynllun cymeradwy. I fod yn gymwys am grant, dylai gofod llawr hanesyddol gwag fod yn wag oherwydd cyflwr gwael neu oherwydd bod y gofod llawr hanesyddol yn methu cyflawni anghenion defnyddwyr modern. 

Mewn termau syml, os derbynnir cais ar gyfer gwaith allanol yn unig yna caiff ei asesu ar Atgyweirio Adeiladau ac Adfer Manylion Pensaernïol (Pwyntiau 1 a 2); os derbynnir cais ar gyfer gwaith allanol a gwaith mewnol gwag, caiff ei asesu'n defnyddio'r Diffyg Cadwraeth (Pwynt 3). 

Dylid nodi na fedrir ystyried ceisiadau ar gyfer gwaith cynnal a chadw arferol neu addurno sylfaenol. 

Cymhwyster 

Bydd adeiladau dethol o fewn Craidd Hanesyddol dynodedig Ardal Gadwraeth Tredegar yn gymwys am gymorth grant. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod un ai'n rhydd-ddeiliiad yr eiddo neu berson sydd â les sydd ag o leiaf 10 mlynedd ar ôl, heb gymal torri, adeg gwneud cais. 

Dyfarniadau Grant Treftadaeth Tirlun Tredegar 

Mae Grant Treftadaeth Tirlun Tredegar ar ddisgresiwn a bydd yn benodol i brosiect. Mae proses dendro i gydymffurfio â hi ac unwaith y cyflwynir pecyn cais wedi’i lenwi caiff ei asesu i benderfynu ar y ffigur grant yn defnyddio meini prawf gosod. Caiff penderfyniadau ar gyllid eu gwneud gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn seiliedig ar gyngor gan y Bwrdd Ymgynghori a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Sefydlwyd y Bwrdd Ymgynghori ym mis Mai 2005 i oruchwylio gweithredu a gwneud penderfyniadau ar gyfer rhaglen Treftadaeth Tirlun Tredegar a hefyd Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid gyda chynrychiolwyr o fusnesau lleol, Archifau Tredegar, Cymunedau yn Gyntaf, Groundwork, Cyngor Tref Tredegar, Aelodau Etholedig lleol a Swyddogion yn Aelodau o'r Bwrdd. 

Mae'n bwysig nodi fod Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar yn bendant iawn yn gynllun grant cadwraeth gyda'r pwyslais ar ddulliau a deunyddiau traddodiadol addas i'r adeilad lle bynnag sy'n bosibl, er enghraifft, nid yw ffenestri UPVC a thoeau teils yn dderbyniol. Disgwylir safon uchel o saernïaeth ar gyfer yr holl waith. 

Canllawiau Ad-dalu 

Mae grantiau yn ad-daladwy os yw'r perchennog yn gwerthu neu'n trosglwyddo perchnogaeth lawn o'u diddordeb yn yr eiddo o fewn cyfnod penodol. 

Cyllidwyr Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar 

Mae gan y cynllun gronfa gyffredin sy'n cynnwys cyfraniadau o wahanol ffynonellau. Mae'n cynnwys cyfraniadau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw, Cyngor 

Tredegar Townscape Heritage Initiative

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Prosiectau Adfywio

Rhif Ffôn: 01495 353313

Cyfeiriad:  Canolfan Ddinesig

Cyfeiriad E-bost: ceri.howell@blaenau-gwent.gov.uk