Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth

Cronfa fuddsoddi yw TISS lle mae modd ymgeisio am gyllid sy’n rhaid  ei ad-dalu a chyllid nad oes yn rhaid ei ad-dalu.  Mae modd i brosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn Sector Twristiaeth Cymru ymgeisio am arian o’r gronfa.  Gellir ei ddefnyddio i un ai ddiweddaru cynnyrch o ansawdd uchel neu i greu cynnyrch newydd.  Gall busnesau ymgeisio am rhwng £25,000 a £500,000 a’r prif feini prawf a’r ystyriaethau pwysicaf y mae’r gronfa’n chwilio amdanyn nhw yw creu swyddi, buddiannau economaidd ac ansawdd.

Gwybodaeth Gyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun, cysylltwch â

E-bostiwch: tiss@cymru.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: 0845 010 8020
(Dalier sylw: Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â ffi defnydd eich cwmni ffôn)