Cyflenwyr Cymeradwy

Mae'r Cyngor yn gwario tua £80 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gweithiau a gwasanaethau. Mae'n weithgaredd gwerth ychwanegol sydd ag effaith hollbwysig ar ein perfformiad a'n llwyddiant. 

Darperir ystod eang o wasanaethau cyhoeddus i bron 69,000 o breswylwyr. 

Nod y canllawiau hyn yw rhoi gwybodaeth a mynediad i gyfleoedd i gontractwyr presennol/darpar gontractwyr ar gyfer cystadlu ar gyfer cyfran o'n busnes. Ni ellir gwarantu llwyddiant; mae hynny'n dibynnu ar ansawdd, cost ac argaeledd eich cynnyrch a gwasanaethau yn ogystal â pholisïau eich sefydliad ar gydraddoldeb, cynaliadwyedd ac iechyd a diogelwch. 

I ddod yn gyflenwr i'r Cyngor, bydd yn ofynnol i chi gofrestru ar gyfeiriadur cyflenwyr corfforaethol y cyngor. 

Sut i Gofrestru 

Cofrestru Ar-lein 

Byddem yn argymell fod cyflenwyr hefyd yn cofrestru gyda GwerthuiGymru, porth caffael sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru  ar gyfer cyflenwyr Cymru

Bydd cofrestru ar-lein yn eich galluogi i ddiweddaru eich proffil cyflenwr, i chwilio a gweld cyfleoedd tendr ar gyfer Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn ogystal â chyfleoedd o fewn sefydliadau sector cyhoeddus eraill. 

Bydd y cofrestru am ddim hefyd yn ein galluogi i gydlynu gyda chi'n fwy effeithiol yng nghyswllt cyfleoedd cyfredol a dyfodol ar gyfer tendro.

Gwybodaeth Gyswllt

Lee Williams – Rheolwr Caffaeliad Corfforaethol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri, NP13 1DB 

E-bost: lee.williams@blaenau-gwent.gov.uk
Ffôn: 01495 355686
Symudol: 07825917441