Geirda Busnes

Geirda gan Pci Pharma Services 

"Mae Pci Pharma Services (gynt Penn Pharma) yn arweinydd byd-eang yn y diwydiant gwyddorau bywyd. Ers symud i'n lleoliad presennol yn Nhredegar yn 1985, gwelodd ein busnes dwf cryf gyda sylfaen cwsmeriaid gwirioneddol fyd-eang ac allforion i bob prif farchnad. 

Bu ein pobl yn rhan hollbwysig o'n llwyddiant ac rydym yn ffodus i fod wedi lleoli mewn ardal lle gwelwn dalent eithriadol ar garreg ein drws. 

Wrth i'n busnes dyfu, felly hefyd ein gweithlu a bydd hyn yn parhau gyda chynlluniau ehangu cyffrous yn y blynyddoedd i ddod. Nid yw'r twf yma'n digwydd heb ei gynllunio, cafodd ei gefnogi gan ymroddiad, ymrwymiad a theyrngarwch ein staff yn ogystal â chefnogaeth gan Gyngor Blaenau Gwent. 

Ein harwyddair bob amser a bydd yn parhau i fod, lle'n bosibl, i bob amser recriwtio'n lleol yna hyfforddi, datblygu a dyrchafu staff o'r tu mewn." 

Norman Barras, Rheolwr Gyfarwyddwr, pci pharma services