Gwasanaeth gostyngiadau Amddiffyn

Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ddarparu rhaglenni ariannu, gwerth £10 miliwn bob blwyddyn, sy’n creu newid gwirioneddol i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU.

Mae gan Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog bedair thema ariannu fras:

  • Gwasanaethau gofal iechyd di-graidd i gyn-filwyr;
  • Cael gwared ar rwystrau i fywyd teuluol;
  • Cymorth ychwanegol ar ôl gwasanaethu i’r rhai sydd ei angen; a
  • Mesurau i integreiddio cymunedau milwrol a sifil a chaniatáu i gymuned y Lluoedd Arfog gymryd rhan fel dinasyddion.

Cewch wybod pa gyllid sydd ar gael yma:

https://covenantfund.org.uk/programmes/

Mae’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel yn gweithio i warchod a chadw cofebion rhyfel yn y DU. Mae’r elusen yn darparu cyngor am ddim i unrhyw un yn ogystal â chynnig cynlluniau grant i gefnogi prosiectau atgyweirio a chadwraeth. Mae grantiau’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel yn cefnogi gwaith atgyweirio a chadwraeth a wneir yn dilyn arferion cadwraeth gorau. Mae bron pob cofeb rhyfel yn gymwys ar gyfer cymorth a gall ceidwaid/perchnogion ddod o hyd i wybodaeth am gymhwysedd a phrosesau yma: https://www.warmemorials.org/grants/